You are here

Back to top

Lona (Paperback)

Lona Cover Image
$15.99
Usually Ships in 1-5 Days

Description


(A classic Welsh love story originally written in 1908 by one of the great literary figures of his day)


"Dewines, duwies, drychiolaeth, pa beth? Rhywbeth ond geneth gyffredin o gig a gwaed. Bwriodd ei hud drosto hyd na wyddai ef pa beth i'w feddwl amdani. Agorodd ffenestr ei henaid iddo, a dangosodd beth o'r trysor ysblennydd oedd yno, heb yn wybod i neb ond iddi hi ei hun, ac heb ei bod hithau hefyd, o ran hynny, yn gwybod fod ynddo ddim oedd mor brin a rhyfeddol."


Newydd symud i ardal y Minfor yw Merfyn Owen pan, ar siawns, mae'n cwrdd Lona O'Neil, y Wyddeles brydferth sy'n byw ar gyrion cymdeithas y gymdogaeth. Ond beth fydd goblygiadau eu carwriaeth i safle Merfyn yn y dref - a beth yw cysylltiad teulu Lona dirgelwch cefndir Merfyn ei hun?


Ar gael yma fel cyfrol am y tro cyntaf ers dros canrif, ac mewn iaith ac orgraff ddiwygiedig, Lona oedd hoff lyfr T. Gwynn Jones o blith ei nofelau ei hun, ac mae'n glasur Cymraeg o'i chyfnod. Hon yw'r nofel gyntaf gan T. Gwynn Jones i gael ei gyhoeddi ers bron i ganrif cyfan, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi holl nofelau'r awdur maes o law.


"Stori serch yw Lona, ac mae'n nofel ddarllenadwy hyd y dydd hwn. Mae'r ddeialog a'r naratif yn ystwyth ac yn naturiol."

- Alan Llwyd


Product Details
ISBN: 9781739440329
ISBN-10: 1739440323
Publisher: Melin Bapur
Publication Date: January 14th, 2024
Pages: 196
Language: Welsh